Datganiad dwyieithog yw hwn. Mae’r fersiwn Saesneg yma.
This is a bilingual media release. The English version can be read here.
MEDIA RELEASE
Embargo tan 00.01, 20 Gorffennaf 2017
Llywodraeth Cymru yn ariannu tyrbin gwynt CELT2 – datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi rhyddhau'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru – 'Llywodraeth Cymru yn ariannu Carmarthenshire Energy Limited'.
Dywedodd Mr Ramsay:
“Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu ystod o wendidau llywodraethu sy'n bygwth hygrededd Llywodraeth Cymru yn ariannu tyrbin gwynt CELT2 yn Sir Gaerfyrddin.
“Rwy'n pryderu ynghylch y gwrthdaro buddiannau yr oedd Llywodraeth Cymru a'r cwmni cyflenwi, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn ymwybodol ohonynt ond a oedd wedi methu â'u rheoli i lefel dderbyniol.
“Roedd diffyg manylion a chydbwysedd digonol yn y briff dilynol a roddwyd i'r Gweinidog a roddodd y gymeradwyaeth derfynol ar gyfer £810,000 o becyn ariannu'r Llywodraeth.
“Yn benodol, mae'n destun pryder na chafodd y Gweinidog wybod am y gwrthdaro buddiannau nac am yr ystod o ganlyniadau posibl mewn perthynas â'r arian dros ben y gallai'r cynllun ei greu i'w ailfuddsoddi yn y gymuned leol.
“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus, gan ei fod yn awgrymu diffyg llywodraethu cadarn ynghylch defnydd Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus i ariannu cyrff gwirfoddol sy'n bwriadu darparu a chefnogi mentrau pwysig sydd o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol.”
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
English
Cymraeg